Mae'r adeilad cerrig ysblennydd hwn sydd yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac a oedd ar un adeg yn felin ac wedyn yn siop nwyddau i ffermwyr, yn parhau i fod yn ganolbwynt tref Sanclêr. Mae'n adeilad trawiadol ac yn gyfeirbwynt ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, addaswyd yr adeilad i ddarparu man arddangos ac oriel helaeth, siop, ystafelloedd cynadledda a stiwdios i arlunwyr eu llogi, yn ogystal â chaffi cwmni preifat.






